Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2018
Amser:
08.30 -
08.42
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad at agenda dydd Mawrth:
- Datganiad gan Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol (45 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru (45 munud)
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2018 -
· Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (60 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu Mandy Jones, yr Aelod Cynulliad newydd ar gyfer Gogledd Cymru, ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mawrth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried yn y cyfarfod nesaf y cwestiwn ynghylch aelodaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill.